Y Cylch Catholig

Cysylltwch a

Ron Keating [email protected]

Cartref / Home Cyfarfodydd/Meetings Pererindod/Pilgrimage Encil / Retreat

Pob un yn clywed yn ei iaith ei hun

Erthyglau Links i ddod / coming up Gweddiau Rosary Anthau Mair Priodas

Diwrnod i Badarn Sant

Dydd Sadwrn, 20 Mai 2017, cynhaliwyd Ysgol Undydd wedi ei threfnu gan Gymdeithas Hanes Ceredigion ar y cyd â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, gyda chyfraniad hefyd gan Weithgor Padarn Sant. Dyma oedd y pedwerydd digwyddiad mewn cyfres o ddigwyddiadau a ysgogwyd yn y lle cyntaf gan y Gweithgor, sef carfan fechan o aelodau plwyf Santes Gwenfrewi a’r Angylion yn Aberystwyth, er mwyn dathlu milflwyddiant a hanner dyfodiad Cristnogaeth i Geredigion trwy waith ac arweiniad Padarn Sant tua’r flwyddyn 517. Awdur gwreiddiol y syniad oedd offeiriad y plwyf hyd 2015, y Tad Neil Evans, a phan symudwyd ef i wasanaethu yng Nghastell Nedd, ni fu i’w weledigaeth ddiflannu gydag ef.

Rhannwyd y rhaglen yn ddau sesiwn, y naill yn y bore yn Neuadd yr Eglwys, Llanbadarn Fawr, a’r llall yn y prynhawn yng Ngogerddan. Wedi i bawb gofrestru, gyda phanaid a chacenni, cafwyd croeso cynnes a chyflwyniad croyw i’r achlysur gan Mr Daniel Huws, Penrhyn-coch, cyn-geidwad Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dilynwyd ef gan Mr Gerald Morgan, hanesydd lleol toreithiog sy’n byw yn Aberystwyth, a draethodd yn nodweddiadol fywiog a difyr ar Fuchedd Padarn Sant, gan geisio gwahanu chwedl a hanes a phwysleisio rhai o’r anawsterau sy’n codi o’r ffaith bod sawl gŵr duwiol o’r enw Padarn, heblaw’r Cymro, wedi eu cymysgu yn y Fuchedd. Yna, mewn darlith a oedd yn batrwm o glirder a threfn ar bwnc cymhleth iawn, soniodd Janet Burton, Athro Hanes Canoloesol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, am hanes y sefydliad crefyddol yn Llanbadarn Fawr, gan gynnwys teulu enwog Sulien, cyn ac ar ôl dyfodiad y Normaniaid i’r cylch yn y ddeuddegfed ganrif a’u hymgais i newid holl gymeriad yr hen glas Cymreig yno a dod ag ef dan adain abaty Benedictaidd Caerloyw yn Lloegr. I gloi sesiwn y bore, tywyswyd y gynulleidfa i’r eglwys ei hun gyferbyn gan Dr Tim Palmer, Ymchwilydd Cysylltiol er Anrhydedd, Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth, a drafododd ddaeareg yr hen feini Cristnogol mawr sy’n sefyll yno yn yr amgueddfa fechan. Terfynwyd sesiwn y bore am 1yp i bobl gael cinio.

 

Am 2yp, ar ôl i bawb symud i Ogerddan, cafwyd y ddarlith gyntaf gan Ken Murphy a soniodd am y gwaith archaeolegol sydd wedi ei wneud yn y cae trionglog sy’n rhagflaenu Gogerddan ar ochr chwith y ffordd wrth ddod o gyfeiriad Aberystwyth, cae sy’n cynnwys olion beddau cyn-Gristnogol o Oes yr Efydd ynghyd â beddau diweddarach o’r cyfnod Cristnogol. Dechreuodd Ken Murphy gloddio yno yn 1986 ac yn ddiweddarach defnyddiwyd  dulliau technoleg geoffisegol ar y safle sy’n ei gwneud yn bosibl cael gwybodaeth fanwl am olion hynafol dan y pridd heb orfod ei rwygo ag offer cloddio. Wedi rhai cwestiynau, cafwyd sesiwn a gynhwysai dri siaradwr, sef Dr Toby Driver, Dr Jeff Davies, a Dr Iestyn Jones, ar bwnc problemau archaeolegol ôl-Rufeinig yng ngogledd Ceredigion. Soniwyd llawer yn y cyflwyniadau hyn am y villa (tŷ) Rhufeinig a ddarganfuwyd rai blynyddoedd yn ôl yn Abermagwr, pwnc sy’n codi llawer o gwestiynau perthnasol. Wedi hyn, bu holi brwd gan y gynulleidfa ar siaradwyr y prynhawn a chafwyd trafodaeth ffrwythlon.

 

I gloi’r Ysgol Undydd, ymlwybrodd pawb i’r `cae trionglog’ i weld y lle drostynt eu hunain. Treuliwyd llawer o’r amser yn sefyll ar safle hen feddrod o Oes yr Efydd a fuasai 30 medr ar draws a 3-4 medr o uchder ac a orweddai ar wely o raean. Siaradodd Ken Murphy a’r archaeolegwyr eraill am y lle gan ateb ar yr un pryd gwestiynau gan aelodau o’r gynulleidfa, a oedd â digon i’w gyfrannu eu hunain at y drafodaeth. Mewn man arall o’r cae, ymhellach i gyfeiriad Bow Street, yr oedd ardal beddau Cristnogol gan gynnwys un i ryw bennaeth lleol o tua 500 O.C., cyfnod Padarn Sant, sylwer. Nodwedd arall yw’r maen mawr hynafol a saif ar ei ben ei hun ac a symudwyd o’i lecyn gwreiddiol yn y broses o addasu’r maes ar gyfer rasys, a doniol oedd clywed yr hanes am yr holl weddillion poteli diod a ddarganfuwyd o’i gwmpas yn ddiweddarach ac a wagiwyd, yn ddiau, gan wylwyr afieithus y rasys! Mae i’r maen hwn, gyda llaw, ddau gymar mewn mannau eraill nid nepell o’r cae ond dyn a ŵyr beth oedd diben yr un ohonynt.

 

Hyfryd, yn wir, oedd sefyll yn y fangre fwyn a heddychlon hon dan awyr las ac awel dyner prynhawn tesog gan ymlacio yn awyrgylch y lle a syllu i’r pellter – i Glarach tua’r gogledd lle ceir eglwys Llangorwen, atgof o bosibl am Gyrwen, ffon enwog Padarn Sant, neu i gyfeiriad hen fryngaer o Oes yr Haearn (fel Pen Dinas). Teimlid iddi fod yn fan cyfarfod di-dor ei barhad a chymdeithasol ei naws gynt rhwng gwahanol gyfnodau, diwylliannau, a chrefyddau ond gyda Christnogaeth yn ben. Hawdd y gellir credu, fel yr awgrymwyd gan Charles Thomas a David Howlett yn eu golygiad safonol o Fuchedd Padarn, i’r sant hwn, rhwng adegau sefydlu mynachlogydd yn Hen Fynyw yn gyntaf a Llanbadarn yn olaf, sefydlu ail fynachlog wedi ei gwneud o bren yma hefyd ar bwys afon Clarach gerllaw.

 

Iestyn Daniel

29/5/17

Double click to insert body text here...