Y Cylch Catholig

Cysylltwch a

Ron Keating rmkeating@hotmail.com

Cartref / Home Cyfarfodydd/Meetings Pererindod/Pilgrimage Encil / Retreat

Pob un yn clywed yn ei iaith ei hun

Erthyglau Links i ddod / coming up Gweddiau Rosary Anthau Mair Priodas

Gair Bywyd - Chwefror 2020

Rhodd yw ffydd. Gallwn, a rhaid i ni, barhau i ofyn amdano er mwyn i ni allu

cydweithio gyda Duw i roi gobaith i eraill.

 

Gwaeddodd tad y bachgen ar unwaith, “Dw i yn credu! Helpa di fi i beidio amau!" (Marc.9:24)

Roedd Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem. Yn gwmni iddo roedd ei ddisgyblion, ac roedd wedi dechrau eu paratoi ar gyfer yr apwyntiad terfynol hwn. Roedd ar ei ffordd i gael ei wrthod gan yr awdurdodau crefyddol, ei gondemnio i farwolaeth gan y Rhufeiniaid ac yna ei groeshoelio cyn atgyfodi.

Roedd hyn yn anodd iawn i Pedr a'r dilynwyr eraill ei ddeall ond mae Efengyl Marc yn ein helpu i ddeall cenhadaeth Iesu'n raddol. Bydd natur fregus ei ddioddefaint yn fodd i waredu'r ddynoliaeth.

Ar y daith, cyfarfu Iesu â llawer o bobl ac oherwydd ei fod mor agored, roedd yn deall eu hanghenion. Yma fe'i gwelwn yn ymateb i dad oedd yn galw arno i iachau ei fab oedd ag anawsterau difrifol. Roedd y plentyn fwy na thebyg yn dioddef o epilepsi.

Er mwyn gwneud i wyrth ddigwydd, roedd rhaid i Iesu wneud cais. Gofynnodd i'r tad gael ffydd.

 

Gwaeddodd tad y bachgen ar unwaith, “Dw i yn credu! Helpa di fi i beidio amau!"

Gwaeddodd y tad ei ateb gerbron y dorf oedd wedi ymgasglu o gwmpas Iesu. Roedd ei eiriau fel pe baen nhw'n gwrth-ddweud eu hunain. Roedd y dyn hwn, fel ni, yn deall pa mor fregus y gall ffydd fod; roedd yn anodd iddo ymddiried yn llwyr yng nghariad Duw ac yn ei gynlluniau ar gyfer pob un o'i blant.

Fodd bynnag, mae hefyd yn wir fod Duw'n ymddiried ynom ni i gyd ac nad yw'n gwneud dim heb ein cyfraniad ni, heb i ni gydsynio'n rhydd. Mae'n gofyn i ni wneud ein rhan er y gallai hyn fod yn fach iawn. Mae'n gofyn i ni gydnabod ei lais sy'n siarad drwy ein cydwybod, ymddiried ynddo ac o ganlyniad, ddechrau caru.

 

Gwaeddodd tad y bachgen ar unwaith, “Dw i yn credu! Helpa di fi i beidio amau!"

Yn aml cawn ein trochi mewn diwylliant sy'n ystyried mai bod yn ymosodol yw’r allwedd i lwyddiant. Mae modd bod yn ymosodol mewn nifer o ffyrdd.

Mewn cyferbyniad, mae'r Efengyl yn cyflwyno paradocs i ni. Gallwn edrych ar ein gwendidau, ein cyfyngiadau a'n natur fregus fel man cychwyn wrth gysylltu â Duw a chymryd rhan gyda Duw yn yr her fwyaf un - undod y teulu dynol cyfan.

Drwy gydol ei fywyd, dysgodd Iesu ni am resymeg gwasanaeth a chymryd y lle 'isaf'. Dyma'r safle perffaith i drawsnewid yr hyn a allai edrych fel gorchfygiad yn fuddugoliaeth nad yw dros dro nac yn hunanol, ond sy'n parhau ac sy'n gyffredin i bawb.

 

Gwaeddodd tad y bachgen ar unwaith, “Dw i yn credu! Helpa di fi i beidio amau!"

Rhodd yw ffydd. Gallwn, a rhaid i ni, barhau i ofyn amdano er mwyn i ni allu cydweithio gyda Duw i roi gobaith i eraill.

Ysgrifennodd Chiara Lubich, sylfaenydd y Focolare, “Mae credu a theimlo bod Duw yn edrych arnom ni ac yn ein caru ni'n golygu bod pob gweddi, popeth sy'n digwydd boed dda, ddrwg neu ddiddrwg-didda, pob salwch, pob un peth unigol yn cael ei weld gan Dduw.  Os mai Cariad yw Duw, yna’r peth mwyaf rhesymegol y gallwn ni ei wneud yw credu’n llwyr ynddo. Gallwn ymddiried ynddo’n aml a dweud wrtho am ein pryderon, ein cynigion a phopeth rydym ni’n bwriadu ei wneud. Gall pob un ohonom ymroi i’w gariad yn gwbl hyderus y byddwn yn cael ein deall, ein cysuro a’n helpu. Gallwn ddweud wrtho, ‘Arglwydd, gad i mi aros yn dy gariad. Paid â gadael i mi fyw am un foment heb deimlo, cydnabod a gwybod - drwy ffydd neu drwy brofiad - dy fod yn fy ngharu a dy fod yn caru pawb.’ Yna gallwn barhau i garu. Mae caru’n gwneud ein ffydd yn gadarn ac yn nerthol. Nid yn unig fyddwn ni’n credu yng nghariad Duw, byddwn hefyd yn ei deimlo yn ein henaid ac yn gweld ‘gwyrthiau’ yn digwydd o’n cwmpas.

 

Letizia Magri

Gair Bywyd