Y Cylch Catholig

Cysylltwch a

Ron Keating [email protected]

Cartref / Home Cyfarfodydd/Meetings Pererindod/Pilgrimage Encil / Retreat

Pob un yn clywed yn ei iaith ei hun

Erthyglau Links i ddod / coming up Gweddiau Rosary Anthau Mair Priodas

Gair Bywyd -  Mehefin 2021

Fydd pawb sy'n fy ngalw i'n ‛Arglwydd’ ddim yn cael dod dan deyrnasiad yr Un nefol, dim ond y bobl hynny sy'n gwneud beth mae fy Nhad yn y nefoedd yn ei ofyn (Mathew 7:21).

Daw’r cymal hwn o Efengyl Mathew ar ddiwedd y Bregeth ar y Mynydd, lle mae Iesu, ar ôl datgan y Gwynfydau, yn gwahodd ei bobl i gydnabod agosrwydd cariadus Duw ac yn dangos sut i weithredu’n briodol: darganfod yn ewyllys y Tad y ffordd i gyflawni cymundeb llawn gydag ef, yn ei Deyrnas.

Fydd pawb sy'n fy ngalw i'n ‛Arglwydd’ ddim yn cael dod dan deyrnasiad yr Un nefol, dim ond y bobl hynny sy'n gwneud beth mae fy Nhad yn y nefoedd yn ei ofyn.

Ond beth yw ewyllys Duw? Sut allwn ni wybod beth yw hyn?

Rhannodd Chiara Lubich ei darganfyddiad fel hyn: "... Ewyllys Duw yw llais Duw sy’n siarad gyda ni drwy’r amser, yn ein gwahodd ni. Mae’n edefyn, neu yn hytrach yn ffilament aur sy’n gwau drwy ein bywyd daearol a thu hwnt. Dyma ffordd Duw o fynegi ei gariad, cariad sy’n gofyn am ymateb er mwyn iddo allu cyflawni ei ryfeddodau yn ein bywyd. Ewyllys Duw yw beth ddylen ni fod, ein bodolaeth gwirioneddol, ein cyflawniad... Gadewch i ni ailadrodd ‘Gadewch iddo ddigwydd’ cyn pob ewyllys boenus, llawen neu ddiddim gan Dduw... Byddwn yn darganfod bod y tri gair hyn yn sbardun pwerus, i’n lansio i wneud beth bynnag sy’n rhaid i ni gyda chariad, gyda pherffeithrwydd ac ymroddiad llwyr… Moment wrth foment, byddwn yn cyfansoddi mosaig rhyfeddol, unigryw ein bywyd nad oes modd ei ailadrodd y mae’r Arglwydd bob amser wedi meddwl amdano i bob un ohonon ni. Fel y mae gan y blodau bach amryliw ystyr o fewn prydferthwch diderfyn natur, felly hefyd mae gan y peth lleiaf, fel gweithred o gariad, ystyr ac mae’n disgleirio ym mhrydferthwch ac anferthedd Duw." 1

Fydd pawb sy'n fy ngalw i'n ‛Arglwydd’ ddim yn cael dod dan deyrnasiad yr Un nefol, dim ond y bobl hynny sy'n gwneud beth mae fy Nhad yn y nefoedd yn ei ofyn.

Yn ôl Efengyl Mathew, Cyfraith y Cristion yw trugaredd sef cyflawni pob gweithred o addoli â chariad at yr Arglwydd.

Mae’r Gair hwn yn helpu ein perthynas gyda Duw sydd yn sicr yn bersonol ac yn agos, yn agored i ddimensiwn brawdol drwy gymryd camau concrit. Mae’n ein hannog i ‘fynd allan’ o’n hunain i sicrhau cymod a gobaith i eraill.

Cafwyd y dystiolaeth hon gan grŵp o bobl ifanc o Heidelberg, yn yr Almaen: "Sut allwn ni wneud i’n ffrindiau brofi mai’r allwedd i hapusrwydd yw rhoi ein hunain i eraill? Dyma lle dechreuon ni lansio ein gweithredu newydd o’r enw ‘Awr o hapusrwydd’. Mae’r syniad yn syml iawn: gwneud rhywun arall yn hapus, am o leiaf awr bob mis. Dechreuon ni gyda’r bobl roedden ni’n meddwl oedd angen cariad fwyaf, a phryd bynnag y cynigion ni ein hunain, agorodd y drysau led y pen! Ac felly, dyma ni mewn parc, yn gwthio pobl hŷn mewn cadeiriau olwyn, neu mewn ysbyty’n chwarae gyda phlant neu wneud chwaraeon gyda phobl ag anableddau. Roedden nhw wrth eu bodd, ond fel y mae’r weithred yn addo: roedden ni’n hapusach fyth! Ac felly ein ffrindiau a wahoddwyd i gymryd rhan? Ar y dechrau roedden nhw’n amheus, ond nawr eu bod wedi ceisio gwneud pobl eraill yn hapus, maen nhw’n cytuno gyda ni: gellir rhoi hapusrwydd, ac yn fwy fyth, gellir ei deimlo.”

 

Letizia Magri

Gair Bywyd