Y Cylch Catholig

Cysylltwch a

Ron Keating rmkeating@hotmail.com

Cartref / Home Cyfarfodydd/Meetings Pererindod/Pilgrimage Encil / Retreat

Pob un yn clywed yn ei iaith ei hun

Erthyglau Links i ddod / coming up Gweddiau Rosary Anthau Mair Priodas

Gair Bywyd - Mai 2020

Mai 2020

 

Dych chi wedi cael eich trin gan yr hyn dw i wedi'i ddweud wrthoch chi (Ioan 15: 3).

 

Yn dilyn y Swper Olaf gyda’r apostolion, gadawodd Iesu’r Oruwch Ystafell a cherdded at Fynydd yr Olewydd. Roedd un ar ddeg yn gwmni iddo: roedd Jiwdas Iscariot eisoes wedi gadael, ac yn fuan byddai’n bradychu Iesu.

Roedd yn ennyd dwys a dramatig. Yn ystod y swper, roedd Iesu wedi rhoi araith hir yn ffarwelio am ei fod am ddweud pethau pwysig wrth ei ddilynwyr agosaf mewn geiriau na fyddai’n cael eu hanghofio.

Roedd ei apostolion yn Iddewon oedd yn gyfarwydd â’r Ysgrythurau ac roedd Iesu wedi eu hatgoffa o ddelwedd gyfarwydd y winwydden. Yn y testunau sanctaidd, mae hyn yn cynrychioli’r Iddewon, oedd dan ofal Duw. Yn wir, mae Duw yn ffermwr sylwgar a medrus. Nawr mae Iesu’n siarad amdano’i hun fel y winwydden sy’n trosglwyddo gwaed bywyd cariad y Tad i’w ddisgyblion1. Rhaid iddyn nhw felly ganolbwyntio ar barhau’n un gydag ef yn bennaf oll.

 

Dych chi wedi cael eich trin gan yr hyn dw i wedi'i ddweud wrthoch chi.

 

Un ffordd i barhau’n un gydag Iesu yw croesawu ei air. Mae’n gadael i Dduw ddod i mewn i’n calonnau i’w gwneud yn ‘bur’, hynny yw eu glanhau o hunanoldeb, ac yn addas i wynebu digonedd o ffrwyth o safon.

Mae’r Tad yn ein caru ni ac yn gwybod yn well na ni beth sy’n gwneud i ni deimlo’n rhydd rhag pwysau diwerth yr holl bethau diangen rydym ni’n gysylltiedig â nhw, o farn negyddol, o chwilio’n bryderus am ffordd i wneud i bopeth weithio er mantais i ni ac o’r rhith o gadw pawb a phopeth dan reolaeth. Yn ein calonnau hefyd ceir dyheadau a phrosiectau cadarnhaol ond gallai’r rhain hefyd gymryd lle Duw ei hun a gwneud i ni golli momentwm hael y bywyd efengylaidd. Dyna pam ei fod weithiau’n ymyrryd yn ein bywyd drwy amgylchiadau a phrofiadau poenus, sydd â’i olwg gariadus y tu ôl iddyn nhw bob amser.

Llawnder llawenydd yw’r ffrwyth y mae’r Efengyl yn ei addo i’r rheini sy’n caniatáu i’w hunain gael eu tocio a’u hadnewyddu gan gariad Duw.2 Mae hwn yn llawenydd arbennig sy’n blodeuo hyd yn oed yng nghanol dagrau ac sy’n goferu o’r galon, gan lifo dros y pridd o gwmpas. Mae fel rhagflas bach o atgyfodi.

 

Dych chi wedi cael eich trin gan yr hyn dw i wedi'i ddweud wrthoch chi.

Mae byw’r gair yn gwneud i ni gamu y tu allan i’n hunain a chyfarfod â’n brodyr a’n chwiorydd gyda chariad, gan ddechrau gyda’r rhai sydd agosaf atom: yn ein teuluoedd, yn ein dinasoedd ac ym mhob rhan o fywyd. Mae’n ein galluogi i greu cyfeillgarwch sy’n ffurfio rhwydwaith o berthnasoedd cadarnhaol, gan anelu at gyflawni gorchymyn cyd-garu sy’n creu brawdgarwch.

Gan fyfyrio ar y cymal hwn o Efengyl Ioan, ysgrifennodd sylfaenydd Focolare, Chiara Lubich, ‘Sut gallwn ni fyw, felly er mwyn i ninnau hefyd haeddu canmoliaeth Iesu? Gallwn weithredu pob gair gan Dduw, gan fwydo arno funud wrth funud a gwneud ein bodolaeth yn waith o ailefengylu parhaus. Drwy wneud hyn, bydd gennym ni’r un meddyliau a theimladau ag Iesu, byddwn yn ei ailfyw yn y byd ac yn dangos y purdeb a thryloywder dwyfol mae’r Efengyl yn eu rhoi i gymdeithas sy’n aml yn llawn drygioni a phechod.

‘Yn ystod y mis hwn felly, os yw’n bosibl (hynny yw os yw pobl eraill yn rhannu ein bwriadau), gadewch i ni geisio, mewn ffordd benodol, i weithredu’r gair hwnnw sy’n mynegi gorchymyn cyd-gariad. I’r efengylwr Ioan, ceir cysylltiad rhwng gair Crist a’r gorchymyn newydd. Dywed mai drwy gyd-gariad rydym ni’n byw y gair gyda’i effeithiau niferus - puro, sancteiddrwydd, bod yn rhydd o bechod, ffrwythlondeb ac agosrwydd at Dduw. Os ydym ni’n byw’n ynysig oddi wrth ein gilydd, ni allwn wrthsefyll pwysau’r byd am yn hir, ond mewn cyd-gariad rydym ni’n dod o hyd i amgylchedd sy’n gallu diogelu bywyd Cristnogol dilys.3

 

Letizia Magri

Gair Bywyd