Y Cylch Catholig

Cysylltwch a

Ron Keating rmkeating@hotmail.com

Cartref / Home Cyfarfodydd/Meetings Pererindod/Pilgrimage Encil / Retreat

Pob un yn clywed yn ei iaith ei hun

Erthyglau Links i ddod / coming up Gweddiau Rosary Anthau Mair Priodas

Y Pab Ffransis – Persbectif Personol

Gyda’r nos ar 15 Mawrth 2013 roeddwn i a’m gwraig yn eistedd mewn caban yn yr Arctig Uchel yn Norwy gyda’r tymheredd y tu allan yn agos i 20°C o dan y rhewbwynt.  Roeddem ni’n disgwyl neges destun ar y ffôn symudol i ddweud bod Goleuni’r Gogledd yn weladwy ac i ba gyfeiriad y dylem edrych. Ingmar, perchennog y caban oedd yn byw 300 llath i ffwrdd dros y rhew a’r eira dwfn oedd am anfon y neges. Yn ddryslyd iawn, derbynion neges ganddo’n dweud: “You have a new pipe (sic).”   Yn ystod y prynhawn, roeddem ni wedi bod yn eistedd yn yr awyr agored gydag Ingmar.  Roeddem ni’n ddigon cynnes wrth y tân agored gyda chrwyn ceirw Llychlyn o’n cwmpas ac yn trafod crefydd, ymysg pethau eraill, ac felly roedd Ingmar yn gwybod mai Catholigion oeddem ni.  Mi sgroliais i lawr i weld gweddill y neges: “He is Argentinian. He will be called Francis.”  Am syndod! Y Pab cyntaf erioed o gyfandir tu hwnt i Ewrop a’r Dwyrain Agos a’r cyntaf i ddewis yr enw Ffransis.

 

Fel llawer dros y Byd, doeddwn i erioed wedi clywed am Jorge Mario Bergoglio o’r blaen, ond mae gan yr Ariannin arwyddocâd personol i mi. Roedd “BA” – Buenos Aires yn rhan o fy mhlentyndod gyda fy nhad, fel capten llong, yn hwylio yn rheolaidd o Lerpwl i Buenos Aires.  Yn fwy diweddar, rydym ni wedi ymweld ag America Ladin – ddeg o weithiau i gyd, ddwywaith i’r Ariannin. Yn y gorffennol, roedd gan y Deyrnas Unedig ac Iwerddon lawer o gysylltiadau â De America ond bellach mae hynt De America yn dawel iawn ar radar y cyfryngau. Problem ieithyddol yw hyn wrth gwrs gan mai dim ond yn y byd Saesneg ei iaith y mae gan lawer o’n hasiantaethau newyddion ni ddiddordeb. Oherwydd fod y Pab yn dod o’r byd estron Sbaenaidd, bydd ei bersbectif yn newydd i lawer o bobl a bydd yn dod o gyd-destun ac efallai safbwynt gwahanol iawn i’r hyn rydym wedi arfer ag ef yn Ewrop a’r “Gorllewin”.

 

Diwinyddiaeth Rhyddhad

Bydd llawer wedi clywed am Ddiwinyddiaeth Rhyddhad (Liberation Theology) yn Ne America yn yr 1980au, ac adwaith negyddol y Fatican at y symudiad a’r pwyslais bryd hynny. Erbyn heddiw, mae sefyllfa wleidyddol y tlodion brodorol yn gwella yn rhannol oherwydd cefnogaeth yr Eglwys, eglwys y Pab newydd. Mi welais y newid yma gyda’m llygaid fy hun yn yr Ariannin. Roeddem ni ar fws o Chile i Salta yng ngogledd-ddwyrain yr Ariannin. Yn uchel yn yr Andes roedd rhaid i’r bws ddod i “full-stop”.  Roedd “bloqueo” dros y ffordd gyda phobl yn eistedd a chreigiau wedi eu gosod i rwystro’r traffig  (gweler llun1).  Mi adawon ni’r bws er mwyn siarad â’r bobl yn y bloqueo a cheisio deall beth oedd rheswm ac amcan y brotest. Asgwrn y broblem oedd sefyllfa ysgol y pentref cyfagos ac fe awgrymwyd y dylem fynd i siarad â’r Offeiriad i ddeall mwy o’r hanes.

 

Ffrancwr oedd yr Offeiriad, a dywedodd fod yna dri chant o blant yn yr ysgol, ond dim ond dwy athrawes. Esboniodd fod pobl y pentref wedi gohebu droeon gyda’r Llywodraeth Ranbarthol ond heb effaith. Esboniodd fod pobl y pentref ar yr ymylon ym mhob ffordd. Roedden nhw mewn cornel anhysbys o’r wlad, eu mamiaith oedd Aymara nid Sbaeneg ac roedden nhw yn dlawd iawn. Yr unig beth a roddai rym iddyn nhw oedd eu gallu i reoli’r heol ryngwladol oedd yn rhedeg trwy eu tir. Ond, doedd yr Offeiriad  ddim yn arwain y brotest; ei rôl o oedd rhoi cyngor i’r bobl.  Yn y diwedd, cyrhaeddodd un o Weinidogion y Llywodraeth a thrafod am awr yng nghanol y ffordd ac roedd pobl y pentref yn ddigon bodlon i symud y “bloqueo” ar ôl chwe awr.

 

Hanes Cristnogaeth yn Ne America

Wrth fedddwl am hanes Cristnogaeth yn Ne America mae’n ryfeddod bod yr Eglwys yn dal yn gryf.   Os buoch erioed yn y Gadeirlan yn Sevilla byddwch wedi gallu gweld yr arian dros bopeth ar yr allor. Tunellau o’r stwff!  Ond beth am y cost i’r bobl brodorol De America – miloedd a miloedd wedi cael eu lladd mewn sefyllfa erchyll mewn twneli bach, peryglus.  Rydyn ni wedi ymweld â’r mwyngloddio yn Potosi ym Molivia (gweler llun 2) ac mae o’n debyg i’r mwyngloddio cynhanesyddol dan Benygogarth yn Llandudno.  

Wrth gwrs, dim ond rhan o’r hanes ydy hyn.  Un peth arall  am Pab Ffransis  - Iesüwr ydy o, y cyntaf i fod yn Bab. Er fod yr Iesuwyr weithiau yn cael “bad press”, mae eu hanes yn Ne America yn un ddiddorol.  Sefydlon nhw “estancias” i ddatblygu amaethyddiaeth ar gyfer pobl leol.  Roedden nhw’n gyflogwyr llawer gwell na’r gweddill ac yn annibynol o’r llwyodraeth, yn atebol yn syth i Rufain, tipyn bach fel hanes y Sistersiaid yng nghymru.   Yn y diwedd roedd gwrthwynebiad y tirfeddanwyr eraill mor gryf bu raid iddynt adael De America am sbel hir.

 

Y Wladfa

I ni yng Ngymru, wrth sôn am yr Ariannin, rydyn ni’n meddwl am y Wladfa.  Gwlad mawr ydy’r Ariannin – roeddwn ni 30 awr ar y bws o Buenos Aires dros y paith i Drelew. Un peth a wnaeth argraff arna i oedd y plac ym Mhorth Madryn, ble llaniodd y Mimosa yn 1865, (gweler llun 3). Mae plac yn rhoi  diolch i’r Cymri oddi wrth “Catholigion Chubut i’r gwladychwyr Cymreig am y Ffydd Cristnogol a ddaethon nhw â hi i’r tiroedd hyn. 1865 –Puerto Madryn – 1965.”  Tybed os bydd Pab Ffransis yn gwybod am y cyswllt rhwng ein glwad fach a’i famwlad?

 

Afiaith yr Eglwys yn Ne America

Mae’r Pab Ffransis wedi siarad am y diffyg egni sydd yn Ewrop. A dyma gyferbyniad mawr gyda De America lle mae cyffro mawr, posibiliadau a newid yn realiti byw. Mae’n amhosib teithio yn Ne America heb ymdeimlo â’r synnwyr o frwdfrydedd ieuenctid. Roeddwn yn darllen erthygl yng nghylchgrawn y “Columban Fathers” (urdd sy’n gweithio yn Ne America), ac ynddo roedd cyfweliad gyda’r Tad Seamus Connell o Ddulyn oedd yn gweithio ym Mheriw. Gofynnwyd iddo “Beth oedd y brif her yn y gwaith?”, ac fe atebodd, “Dod yn gyfarwydd â gweithio mewn eglwys ble roedd pobl Duw â gofal drosti. Roedd hyn yn gryn dipyn o newid ond yn y diwedd dyma oedd atyniad mawr i mi”  ac  “Daeth y pobl da Dde America â fi at Dduw a nhw oedden  fy athrawon”. O’r cyd-destun yma mae’r Pab newydd wedi dod.

 

Ffransis o Assisi

Penderfyniad cyntaf y Pab Ffransis oedd cael ei enwi ar ôl Ffransis o Assisi. Rydym ni i gyd yn gyfarwydd â llun y Sant ac adar yn bwydo ar ei law. Ond yn fwy arwyddocaol efallai roedd cred Assisi ei bod yn rhaid bod yn dlawd a helpu pobl dlawd er mwyn bod yn wir ddilynwr i Iesu. Felly, mae yna neges glir yn newis enw’r Pab. Wrth esbonio ei ddewis dywedodd: “Y tlawd, y tlawd! Wedyn, yn syth, wrth feddwl am y tlawd, meddyliais i am Ffransis o Assisi. Wedyn meddyliais am y rhyfeloedd i gyd ... dyn heddwch oedd Ffransis hefyd. Dyna sut daeth yr enw i mewn i fy nghalon: Ffransis Assisi ... Cymaint y byddwn i’n caru Eglwys dlawd ac er mwyn y tlawd!” Dangosodd yn syth ei fod o ddifri pan wrthododd yr ystafelloedd preifat a ddefnyddiwyd gan Babau o’i flaen, a dewis preswylfa syml yng ngwesty’r Fatican, dewis car cyffredin, a gwrthod y fodrwy Babyddol o aur.

 

Ond beth am ysblander Sgwâr Pedr Sant a’r Fatican?  Ein taith gyntaf ar ôl i ni briodi, dros hanner can mlynedd yn ôl, oedd taith i Rufain. Cefais fy synnu gan y lle, maint yr eglwys, y Capel Sistinaidd a’r gelfyddyd i gyd. Y tro diwethaf i mi ymweld â Rhufain fe’m synnwyd wrth weld y rhesi oedd yn aros i ymweld â’r Sgwâr a’r gadeirlan, a’r mesurau diogelwch. Fy ymateb naturiol oedd holi: “Sut y mae hyn yn gyson â neges syml Iesu?”  Nid yw’r Pab Ffransis wedi rhannu llawer am y pwnc eto, ond mae wedi dweud rhai pethau digon chwyldroadol. Bu’r Fatican fel brenhiniaeth, cyfeiriwyd at y cardinaliaid fel “Tywysogion yr Eglwys” ac, yn feiddgar, dywedodd y Pab unwaith “y byddai’n dda i’r cardinaliaid gofio eu bod yn dod i mewn i eglwys yn Rhufain nid i  lys brenhinol.” A da fyddai iddynt gofio mai gweision ydyn nhw nid “gwŷr llys”. Cyn y Nadolig dywedodd wrth y Curia (staff y Fatican) mai “corff gwael yw Curia sydd ddim yn beirniadu ei hun”.  Ond fe’u hanogodd i beidio â mynd o gwmpas gyda  “wynebau angladdol”. Wrth drydar, ei anogaeth oedd i  “dystio’n orfoleddus i’n Ffydd” – geiriau tebyg i rai Dewi Sant pan ddywedodd: “Byddwch lawen, cadwch y Ffydd!”