Myfyrdodau Misol ar Air Duw

Cynnwys

Tachwedd 2024

Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben. Ond rhoddodd hon y cwbl oedd ganddi i fyw arno. (Marc 12:44)

Hydref 2024

Rhaid i'r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu, a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i bawb arall. (Marc 10:43-44)

Medi 2024

Gwnewch beth mae Duw'n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn. Twyllo'ch hunain ydy peth felly! (Iago 1:22)

Awst 2024

Arglwydd, mae'n dda cael bod yma (Mathew 17:4)

Gorffennaf 2024

Yr Arglwydd ydy fy mugail i; mae gen i bopeth dw i angen. (Salm 23[22]:1)


Tachwedd 2024 - Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben. Ond rhoddodd hon y cwbl oedd ganddi i fyw arno. (Marc 12:44)

Daw’r adnod hwn ar ddiwedd pennod 12 yn Efengyl Marc. Mae Iesu yn y Deml yn Jerwsalem lle mae’n arsylwi ac yn addysgu. Os edrychwn ar yr olygfa drwy ei lygaid ef, fe ddown yn ymwybodol o lawer o gymeriadau gwahanol: pobl sy‘n pasio drwodd yn unig, rhai sydd wedi dod i addoli, rhai sy‘n bwysigion mewn gynau hir a rhai yn bobl gyfoethog yn taflu eu cyfraniadau sylweddol i drysorlys y deml.

Ond dyma wraig weddw, sy‘n perthyn i’r categori hwnnw o bobl sy’n ddifreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd. Heb i neb dalu sylw, mae’n taflu dwy geiniog i’r trysorlys. Fodd bynnag mae Iesu’n sylwi arni ac yn galw’r disgyblion ato ac yn eu dysgu:

Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben. Ond rhoddodd hon y cwbl oedd ganddi i fyw arno.

‘Credwch chi fi...’ Mae’r geiriau hyn yn cyflwyno gwersi pwysig; mae trem Iesu’n canolbwyntio ar y wraig weddw dlawd ac mae’n ein gwahodd i edrych i’r un cyfeiriad gan ei bod yn fodel i’r disgyblion.

Mae ei ffydd yng nghariad Duw’n ddiamod; ei thrysor yw Duw ei hun. Mae hi’n ildio’i hun a phopeth sydd ganddi iddo, ac ymhellach, mae’n dymuno rhoi popeth y gall ei roi i gefnogi’r rheini sy’n dlotach na hi. Mewn ffordd mae ei hildio ffyddiog i’r Tad yn rhagweld yr un rhodd ohono ef ei hun y bydd Iesu’n ei wneud yn fuan drwy ei ddioddefaint a’i farwolaeth. Dyma ‘dlodi’r ysbryd’ a ‘phurdeb calon’ fel y cyhoeddodd Iesu, ac y bu’n eu byw.

Mae hyn yn golygu ‘gosod ein hymddiriedaeth yng nghariad Duw a’i ragluniaeth ond nid yn ei gyfoeth... Rydym ni’n ‘ dlawd yn yr ysbryd’ pan fyddwn yn caniatáu i gariad at eraill ein harwain. Mae hyn yn golygu y byddwn yn rhannu ac yn rhoi’r hyn sydd gennym i’r rheini sydd mewn angen; gall fod yn wên, ein hamser, ein heiddo neu ein sgiliau. Pan fyddwn ni’n rhoi beth bynnag sydd gennym mewn cariad, byddwn ni wedyn yn dlawd, heb ddim byd ynom ein hunain, gyda chalon rydd a phur.’

Mae cynnig Iesu’n troi ein ffordd arferol o feddwl ar ei ben; y rheini sy’n dlawd, yn ansylweddol ac yn ddibwys sydd yng nghanol ei feddyliau.

Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben. Ond rhoddodd hon y cwbl oedd ganddi i fyw arno.

Mae’r Gair Bywyd hwn yn ein gwahodd i adnewyddu ein hymddiriedaeth lawn yng nghariad Duw ac ystyried a yw ein gweledigaeth ni o fywyd yn cymharu â’i un yntau: ydyn ni’n gweld y tu hwnt i ymddangosiad, ydyn ni’n osgoi beirniadu, ydyn ni’n ystyried barn pobl eraill os yw’n wahanol i’n barn ni ac ydyn ni’n gweld ochr gadarnhaol pobl eraill?

Mae’n awgrymu y ceir rhesymeg efengylaidd wrth roi’n rhydd i eraill a bod gwneud hynny’n creu cymuned heddychlon gan ei fod yn ein hannog i ofalu am ein gilydd. Mae hefyd yn ein hannog i fyw geiriau’r Efengyl yn ein bywyd bob dydd hyd yn oed pan na fydd pobl eraill efallai‘n sylwi, ymddiried pan fyddwn yn hael gyda phobl eraill a rhannu gan gadw agwedd o gydbwysedd a barn glir. Mae’r Gair hwn yn canolbwyntio ein sylw ar y ‘lleiaf’ ac yn gofyn i ni ddysgu ganddyn nhw.

Ganwyd a magwyd Venant yn Burundi. Dywed: 'Yn y pentref, roedd gan fy nheulu fferm dda oedd bob amser yn cynhyrchu cynhaeaf da. Roedd fy mam yn credu bod popeth yn dod drwy ragluniaeth y nef ac felly, bob blwyddyn, byddai’n casglu’r ffrwythau cyntaf ac yn eu rhannu â’r cymdogion, gan ddechrau gyda’r teuluoedd mwyaf anghenus ac yna ddyrannu rhan fach yn unig o’r hyn oedd ar ôl i ni. Dysgais werth rhoi anhunanol drwy ei hesiampl hi. Felly, roeddwn yn deall bod Duw yn gofyn i fi roi’r “rhan orau” iddo ef, yn wir i roi fy holl fywyd iddo.’

[Yn ôl i'r Cynnwys]


Hydref 2024 - Rhaid i'r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu, a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i bawb arall. (Marc 10:43-44)

Mae Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem, ac am y trydydd tro, mae’n ceisio paratoi ei ddisgyblion ar gyfer digwyddiad dramatig ei ddioddefaint a’i farwolaeth, ond y rhai sydd wedi ei ddilyn yn fwyaf agos yw’r rhai sydd fel pe baent yn methu deall yr hyn sydd ar fin digwydd. Yn wir, mae cynnen yn codi rhwng yr apostolion eu hunain: mae Iago ac Ioan yn gofyn am gael ‘eistedd bob ochr i ti pan fyddi'n teyrnasu’ ac mae’r deg arall yn digio ac yn dechrau cwyno. Mewn gair, mae’r grwp yn rhanedig. Yna mae Iesu’n eu galw’n amyneddgar ac yn ailadrodd yr hyn mae wedi’i ddatgan. Mae ei eiriau mor newydd maen nhw’n creu ymdeimlad o sioc.

Rhaid i'r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu, a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i bawb arall.

Yn y darn hwn o efengyl Marc, mae’r ddelwedd o was-gaethwas yn cyrraedd uchafbwynt. Mae Iesu’n ein harwain o agwedd fod ar gael o fewn y grwpiau cyfyngedig a chefnogol y gallem fod yn perthyn iddynt, i fod yn gwbl ymrwymedig i bawb, yn ddieithriad. Mae hwn yn gynnig cwbl amgen a gwrth-ddiwylliannol o’i gymharu â dealltwriaeth arferol y ddynoliaeth o awdurdod a llywodraethiant ac mae’n cyfareddu’r apostolion ac yn effeithio arnom ni hefyd.

Efallai mai dyma gyfrinach cariad Cristnogol?

‘Un gair yn yr Efengyl na chaiff ei bwysleisio ddigon gan Gristnogion yw “gwasanaethu”. Efallai ei fod yn swnio’n hen ffasiwn i ni, ac nad yw’n deilwng o urddas bodau dynol sy’n rhoi ac yn derbyn. Eto i gyd mae’n greiddiol i’r Efengyl sy’n ymwneud yn llwyr â chariad. Ac mae caru’n golygu gwasanaethu. Ni ddaeth Iesu i reoli ond i wasanaethu. Mae gwasanaethu, a gwasanaethu ein gilydd, wrth galon Cristnogaeth, ac mae pwy bynnag sy’n byw hyn gyda symlrwydd – a gall pawb wneud hynny – wedi gwneud popeth sydd ei angen. Mae gwneud hynny’n sicrhau nad yw pobl yn aros ar eu pen eu hunain oherwydd gan mai cariad yw hanfod Cristnogaeth, mae’n lledaenu fel tân.’

Rhaid i'r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu, a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i bawb arall.

Mae’r cyfarfyddiad gyda Iesu yn ei Air yn agor ein llygaid, fel y gwnaeth i’r dyn dall, Bartimaeus, y gwelir ei stori yn union ar ol y Gair Bywyd hwn. Mae Iesu’n ein rhyddhau oddi wrth ein gweledigaeth gul ac yn caniatau i ni ystyried gorwelion Duw ei hun, a’i gynllun am ‘nefoedd newydd a daear newydd.’ Golchodd Iesu draed pobl eraill a thrwy ei esiampl dymchwelodd yr arfer caeth mewn cymdeithas, a hyd yn oed mewn amgylcheddau crefyddol, o ddirprwyo tasgau gwasanaeth ymarferol i ddosbarth penodol o bobl. Dylai Cristnogion felly ddynwared esiampl Iesu a dysgu dull newydd o fywyd ganddo yn y gymdeithas. Mae hyn yn golygu bod yn ‘wir gymydog’ i bob unigolyn a gyfarfyddwn, beth bynnag eu cyflwr cymdeithasol neu ddiwylliannol. Fel yr awgryma John Anziani, gweinidog Methodistaidd yn yr Eglwys Wasdensaidd, ‘Drwy gytuno i osod ymddiriedaeth a gobaith yn yr Arglwydd, sy’n was i gynifer o bobl, mae Gair Duw yn gofyn i ni weithredu yn ein byd ac yng nghanol ei holl anghysonderau, fel pobl sy’n gweithio dros heddwch a chyfiawnder, sy’n adeiladu pontydd i hwyluso cymod ymhlith cenhedloedd.’ Dyma hefyd sut y bu Igino Giordani, awdur, newyddiadurwr, gwleidydd a gwr teulu, yn byw mewn cyfnod o orthrwm ac unbennaeth. I ddisgrifio ei brofiad, ysgrifennodd: ‘Mae gwleidyddiaeth - yn yr ystyr Gristnogol fwyaf urddasol - yn “was” a rhaid iddi beidio â bod yn “feistr”: ac ni ddylai gam-drin, tra-arglwyddiaethu na deddfu. Ei swyddogaeth a’i hurddas yw gwasanaethu cymdeithas, bod yn elusen ar waith, bod y ffurf uchaf o gariad dros ein mamwlad.’

Drwy dystiolaeth ei fywyd, mae Iesu’n cynnig dewis ymwybodol a rhydd i ni. Yn hytrach na byw’n gaeëdig ynom ni ein hunain a’n buddiannau, gofynnir i ni ‘fyw bywyd y person arall’ gan deimlo beth maen nhw’n ei deimlo, cludo eu beichiau a rhannu eu llawenydd. Mae gan bawb gyfrifoldebau a meysydd cyfrifoldeb bach neu fawr. Efallai y bydd y rhain yn cynnwys gwleidyddiaeth neu feysydd eraill mewn cymdeithas megis yn ein teuluoedd, ein hysgolion neu ein cymunedau ffydd. Gadewch i ni fanteisio ar ein ‘mannau anrhydedd’ i’n gosod ein hunain i wasanaethu lles y gymdeithas gyfan, gan greu perthnasoedd dynol cyfiawn a thrugarog gyda phawb.

[Yn ôl i'r Cynnwys]


Medi 2024 - Gwnewch beth mae Duw'n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn. Twyllo'ch hunain ydy peth felly! (Iago 1:22)

Mae awdur adnod y mis hwn yn pwysleisio pwysigrwydd sylfaenol gwrando a gweithredu. Yn wir, aiff y llythyr yn ei flaen: ‘Ond mae'r un sy'n dal ati i edrych yn fanwl ar ddysgeidiaeth berffaith y Duw sy'n ein gollwng ni'n rhydd yn wahanol. Dydy'r sawl sy'n gwneud hynny ddim yn anghofio beth mae wedi'i glywed; mae'n gwneud beth sydd ei angen. A bydd Duw yn bendithio popeth mae'n ei wneud!’ (Iago 1:25) Yr union ymrwymiad hwn i wybod Gair Duw a’i fyw yw’r hyn sy’n ein rhyddhau ac yn rhoi llawenydd i ni.

Gallech chi ddweud mai adnod Feiblaidd y mis hwn yw’r union reswm pam fod ymarfer Gair Bywyd wedi lledaenu drwy’r byd. Unwaith yr wythnos, ac yna unwaith y mis, roedd Chiara Lubich yn arfer dewis brawddeg o’r Ysgrythur ac yn gwneud sylwadau arno ac yna byddai grwpiau o bobl yn cyfarfod i rannu’r ffrwyth yr oedd byw’r Gair wedi’u cyflwyno iddyn nhw yn eu bywydau bob dydd. Creodd hyn gymuned unedig ac mewn ffordd fach, datgelodd yr effaith gymdeithasol y gall byw’r Gair ei chael ar gymdeithas.

‘Er gwaethaf ei symlrwydd, gwnaeth y fenter gyfraniad nodedig i ailddarganfod Gair Duw ym myd Cristnogol yr ugeinfed ganrif’ drwy drosglwyddo ‘dull’ ar gyfer byw’r Efengyl a rhannu ei heffeithiau.

Gwnewch beth mae Duw'n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn. Twyllo'ch hunain ydy peth felly!

Mae llythyr Iago’n cydio yn neges Iesu sy’n cyfeirio at brofi presenoldeb Teyrnas Nefoedd yn ein plith: mae Iesu’n datgan bod y rheini sy’n gwrando ar ei Air ac yn ei gadw wedi’u bendithio;ii mae’n cydnabod mai ei fam a’i frodyr ydy'r bobl sy'n clywed neges Duw ac yn gwneud beth mae'n ei ddweud; iii mae’n cymharu hyn â’r hedyn sy’n syrthio ar bridd da – hynny yw, ar y rheini sy’n gwrando arno gyda chalon dda a bonheddig ac yn ei gadw – maen nhw’n cynhyrchu ffrwyth drwy eu dyfalbarhad.

‘Ym mhob un o’i eiriau mae Iesu’n mynegi ei holl gariad atom’ ysgrifenna Chiara Lubich. ‘Gadewch i ni wneud y Gair yn gnawd a’i wneud yn eiddo i ni ein hunain. Os gwnawn ni hynny, byddwn yn profi’r bywyd pwerus mae’n ei ryddhau ynom ni ac o’n cwmpas. Gadewch i ni syrthio mewn cariad gyda’r Efengyl i’r pwynt o ganiatáu i’n hunain gael ein trawsnewid ganddo a’i alluogi i arllwys i mewn i bobl eraill... Byddwn yn rhydd oddi wrthym ni ein hunain a’n cyfyngiadau. Ymhellach, byddwn yn gweld chwyldro o gariad yn ffrwydro ym mhobman gan y bydd Iesu, wedi’i ryddhau i fyw ynom ni, yn dod â newid mewn cymdeithas lle bynnag rydyn ni’n byw.’

Gwnewch beth mae Duw'n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn. Twyllo'ch hunain ydy peth felly!

Sut allwn ni roi’r Gair ar waith? Gadewch i ni edrych o’n cwmpas a gwneud popeth y gallwn i wasanaethu pobl eraill sydd mewn angen, drwy weithredoedd bach a rhai sydd yn fwy o faint. Mae camau o’r fath yn gallu trawsnewid anghyfiawnder mewn cymdeithas, brwydro trais, meithrin heddwch a chymod a chynyddu sensitifrwydd at barch i’n planed. Gall hyn gychwyn chwyldro gwirioneddol yn ein bywydau, yn ein hamgylcheddau gwaith ac yn y cymunedau lle’r ydyn ni’n byw.

Mae cariad yn ei amlygu ei hun mewn gweithredoedd cymdeithasol a gwleidyddol sy’n ceisio adeiladu byd gwell. Arweiniodd yr ymrwymiad oedd gan cymuned fach Focolare i’r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas at agor Canolfan Chiara Lubich ar gyfer yr Oedrannus yn Lamud, Periw yn ardal yr Amazon, 2,330 metr uwchlaw lefel y môr.

‘Agorwyd y Ganolfan yng nghanol argyfwng y pandemig ac mae’n gartref i 50 o bobl oedrannus ac unig. Daeth yr adeilad, y celfi, y llestri a hyd yn oed y bwyd fel rhodd gan y gymuned gyfagos. Roedd yn risg, nad oedd yn rhydd o anawsterau a rhwystrau, ond ym mis Mawrth 2022 dathlodd y Ganolfan ei blwyddyn gyntaf. Cynhaliwyd parti ac agorwyd ei drysau i’r ddinas; roedd hyd yn oed y cynrychiolwyr gwleidyddol yn cymryd rhan. Denodd y ddau ddiwrnod o ddathlu wirfoddolwyr newydd, yn oedolion ac yn blant, sy’n awyddus i gynyddu eu teuluoedd eu hunain drwy ofalu am neiniau a theidiau unig.’

[Yn ôl i'r Cynnwys]


Awst 2024 - Arglwydd, mae'n dda cael bod yma (Mathew 17:4)

Mae Iesu a’i ddisgyblion ar y ffordd i Jerwsalem. Wrth iddo gyhoeddi mai hwn yw’r man lle bydd yn dioddef, yn marw ac yn atgyfodi, mae Pedr yn gwrthwynebu ac yn mynegi ymdeimlad cyffredinol o siom a diffyg dealltwriaeth. Yna aiff y Meistr ag ef ac Iago ac Ioan i ddringo ‘mynydd uchel’ ac ymddangos i’r tri wedi’i drochi mewn golau newydd a rhyfeddol. Mae wyneb Iesu’n ‘disgleirio fel yr haul’ ac mae’n sgwrsio gyda Moses a’r proffwyd Elias. Clywir llais y Tad yn dod o gwmwl disglair yn eu gwahodd i wrando ar Iesu, ei Fab annwyl. Wrth i Pedr dystio i’r digwyddiad rhyfeddol hwn, mae’n anfodlon gadael, gan ebychu:

Arglwydd, mae'n dda cael bod yma

Gwahoddodd Iesu ei ffrindiau agosaf i gael profiad anfarwol y bydden nhw’n ei gofio am byth.

Efallai ein bod ninnau hefyd wedi teimlo rhyfeddod ac emosiwn wrth fod yn ymwybodol o bresenoldeb a gwaith Duw yn ein bywydau. Efallai i ni gael ymdeimlad o lawenydd, heddwch a goleuni a dymuno y byddai eiliadau fel y rhain yn parhau am byth. Yn aml fe gawn brofiadau o’r fath pan fyddwn ni gyda phobl eraill neu yn sgil y pethau maen nhw’n eu gwneud. Yn wir, mae cyd-gariad yn denu presenoldeb Duw oherwydd, fel yr addawodd Iesu: ‘Pan mae dau neu dri sy'n perthyn i mi wedi dod at ei gilydd, dw i yna gyda nhw’ (Mathew 18:20). Ambell waith, yn ystod y cyfnodau hyn o fod yn agos ato, mae Duw’n gwneud i ni ein gweld ein hunain a deall digwyddiadau yn yr un ffordd ag y mae e’n ei wneud. Mae fel pe baem ni’n edrych drwy ei lygaid ef.

Caiff profiadau o’r fath eu rhoi i ni fel bod gennym ni’r nerth i wneud yr ymdrech a wynebu’r anawsterau a’r heriau rydyn ni’n dod ar eu traws yn ystod taith ein bywyd. Maen nhw’n ein helpu i fod yn siwr fod Duw wedi edrych arnom ni ac wedi’n galw i fod yn rhan o hanes iachawdwriaeth.

Mewn gwirionedd, unwaith y daw y disgyblion i lawr o’r mynydd, byddan nhw’n mynd gyda’i gilydd i Jerwsalem lle mae torfeydd sy’n llawn gobaith yn aros amdanyn nhw ond byddan nhw hefyd yn wynebu maglau, gwrthwynebiad, troi cefn a dioddefaint. Yno byddan nhw’n cael ‘eu gwasgaru a’u hanfon i eithafion y ddaear i dystio mai ein hannedd olaf yw Teyrnas Duw.’

Byddan nhw’n gallu dechrau adeiladu ty Duw ymhlith dynion a menywod ar y ddaear oherwydd eu bod wedi bod ‘gartref’ gydag Iesu ar y mynydd.

Arglwydd, mae'n dda cael bod yma

Ar ddiwedd y profiad dirgel hwn, mae Iesu’n siarad gyda’r apostolion gan ddweud, ‘“Codwch, peidiwch bod ag ofn.’ (Mathew 17:7) Mae’n cyfeirio’r un geiriau atom ni. Boed i ni wynebu beth bynnag sy’n ein disgwyl gyda’r un dewrder ag oedd gan y disgyblion.

Dyma beth wnaeth Chiara Lubich. Yn dilyn cyfnod o wyliau oedd mor llawn o oleuni fel y cafodd ei ddisgrifio fel ‘paradwys 1949' gyda myfyrdodau hynod ar ddirgelion ffydd ac ymwybyddiaeth ddwys o bresenoldeb Duw yn y gymuned fach lle’r oedd hi’n gorffwys, doedd hi chwaith ddim yn awyddus i ddychwelyd i’w bywyd bob dydd. Fodd bynnag fe wnaeth hynny gydag ysgogiad newydd am ei bod yn sylweddoli mai’r profiad hwnnw o oleuo oedd y rheswm ei bod yn gorfod ‘dod i lawr o’r mynydd’ a bwrw iddi i weithio fel offeryn ar ran Iesu yn adeiladu ei Deyrnas. Roedd hyn yn golygu gosod ei gariad a’i oleuni ym mhob sefyllfa lle’r oedden nhw’n brin a hyd yn oed wyneb caledi a dioddefaint.

Arglwydd, mae'n dda cael bod yma

Pan fydd yn ymddangos bod tywyllwch yn disgyn o’n cwmpas, boed i ni gofio’r amseroedd pan gawsom ni ein goleuo gan yr Arglwydd. Os nad ydyn ni wedi profi ei agosrwydd atom eto, gadewch i ni edrych amdano nawr. Gadewch i ni wneud yr ymdrech i ‘fynd i fyny’r mynydd’ i gyfarfod ag ef yn ein cymdogaethau, ei addoli yn ein heglwysi, a hefyd myfyrio arno yn harddwch natur.

Mae yma i ni bob amser: mae’n ddigon ein bod ni, fel Pedr, Iago ac Ioan, yn cerdded yn ei gwmni ac yn gwrando arno’n wylaidd.

[Yn ôl i'r Cynnwys]


Gorffennaf 2024 - Yr Arglwydd ydy fy mugail i; mae gen i bopeth dw i angen. (Salm 23[22]:1)

Salm 23 yw un o’r salmau mwyaf adnabyddus a hon hefyd yw hoff salm llawer iawn o bobl. Mae’n gantigl o ymddiriedaeth a chyffes lawen o ffydd a fynegir gan rywun sy’n perthyn i bobl Israel. Drwy’r proffwydi, mae’r Arglwydd wedi addo bod yn fugail arnyn nhw. Mae awdur y salm yn mynegi ei hapusrwydd personol am ei fod yn gwybod ei fod yn cael ei ddiogelu gan y Deml, lleoliad noddfa a gras, ond hefyd, gan dynnu ar ei brofiad, mae’n awyddus i annog eraill i fod â hyder ym mhresenoldeb yr Arglwydd.

Yr Arglwydd ydy fy mugail i; mae gen i bopeth dw i angen.

Mae delwedd y bugail a’i braidd yn un a ddefnyddir yn helaeth mewn llenyddiaeth feiblaidd. I’w deall yn iawn, rhaid i ni feddwl am anialwch cras a chreigiog y Dwyrain Canol. Mae’r bugail yn arwain ei braidd yn ofalus, oherwydd hebddo gallent grwydro i ffwrdd a marw. Rhaid i’r defaid ddysgu dibynnu arno, gan wrando ar ei lais. Ef yw eu cydymaith parhaus.

Yr Arglwydd ydy fy mugail i; mae gen i bopeth dw i angen.

Mae’r salm yn ein gwahodd i gryfhau ein perthynas agos â Duw drwy brofi ei gariad. Efallai fod rhai’n tybied pam fod yr awdur yn mynd mor bell â dweud ‘mae gen i bopeth dw i angen’. Y dyddiau hyn mae problemau a heriau iechyd, teulu, gwaith ac ati’n rhan o fywyd bob dydd. Yn ogystal, ceir y dioddefaint anferthol a brofir gan gynifer o’n brodyr a’n chwiorydd oherwydd rhyfel, canlyniadau newid yn yr hinsawdd, mudo, trais ac ati.

Yr Arglwydd ydy fy mugail i; mae gen i bopeth dw i angen.

Efallai fod yr allwedd i ddehongli’r salm yn yr adnod lle darllenwn “am dy fod ti gyda mi” (Salm 23:4). Mae’n cyfeirio at sicrwydd yng nghariad Duw sydd gyda ni bob amser ac sy’n gwneud i ni fyw mewn ffordd wahanol. Ysgrifennodd Chiara Lubich: "Un peth yw gwybod y gallwn droi at Fod sy’n bodoli, sy’n trugarhau wrthym, sydd wedi talu am ein pechodau. Peth cwbl wahanol yw byw a theimlo ein hunain yng nghanol hoffter Duw, a thrwy hynny alltudio’r holl ofnau sy’n ein dal ni’n ôl, pob unigrwydd, pob ymdeimlad o fod yn amddifad a phob ansicrwydd... Mae dynion a menywod yn gallu gwybod eu bod yn cael eu caru a chredu yn y cariad hwn gyda’u holl fodolaeth. Gallan nhw ildio iddo ag ymddiriedaeth a’i ddilyn. Mae popeth sy’n digwydd mewn bywyd, boed drist neu lawen, yn cael ei oleuo drwy wybod bod cariad wedi’i ewyllysio neu ei ganiatáu i gyd.”

Yr Arglwydd ydy fy mugail i; mae gen i bopeth dw i angen.

Gwireddodd Iesu’r broffwydoliaeth hon: yn Efengyl Ioan nid yw’n petruso rhag galw ei hun yn ‘fugail da’. Mae ein perthynas gyda’r bugail hwn yn bersonol ei natur. “Fi ydy'r bugail da. Dw i'n nabod fy nefaid fy hun ac maen nhw'n fy nabod i" (Ioan 10:14-15). Mae’n eu harwain i borfeydd ei Air sy’n fywyd, yn enwedig y Gair sy’n cynnwys y neges yn y “gorchymyn newydd” sydd, os yw’n cael ei fyw, yn gwneud presenoldeb yr Atgyfodedig Un yn “weladwy” yn y gymuned sydd wedi ymgasglu yn ei enw, yn ei gariad.

[Yn ôl i'r Cynnwys]